Default image

Cyflwyniad i Ysgrifennu Sgrîn

Cyflwyniad i Ysgrifennu Sgrîn

Cyflwyniad i Ysgrifennu Sgrîn


Dyddiad: Dydd Sadwrn 15fed o Fawrth
Amseroedd: 09.30 - 16.30
Lleoliad: Caernarfon
Pris: Gyda diolch i Cymru Greadigol, mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim.

Mae’r cwrs Cyflwyniad i Ysgrifennu Sgrîn hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd yn newydd i’r grefft o ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu. Wedi ei gynllunio’n benodol ar gyfer y rhai sydd yn ysgrifennu yn y Gymraeg, bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno’n bersonol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn un diwrnod bywiog ac ymarferol, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i archwilio a meithrin eu lleisiau unigryw fel ysgrifenwyr. Mae datblygu llais unigryw yn hanfodol i unrhyw un sydd am wneud eu marc ym maes ysgrifennu sgrin, lle gall unigoliaeth a phersbectif personol cryf wella’r grefft o adrodd straeon yn sylweddol.

Bydd y gweithdy wedi’i guradu’n ofalus yn canolbwyntio ar:

  • Pwysigrwydd llais yr awdur a strategaethau ar gyfer ei ddatblygiad.

  • Elfennau i greu sgript gofiadwy gan archwilio stori, strwythur, cymeriad, a thema.

  • Sut i siapio ffilm a cyfres deledu.

Mewnwelediadau ymarferol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a fydd yn rhannu eu harbenigedd.

Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol a thrafodaethau, gan gynnwys sesiwn grŵp hwyliog ac anffurfiol i archwilio genre, annog creadigrwydd, a meithrin hyder.
 

Cliciwch yma i wneud cais

Catrin Cooper

Bywgraffiad Catrin Cooper

Mae Catrin Cooper yn gynhyrchydd ac yn ymgynghorydd sy’n gweithio gyda thalent ryngwladol ar draws ffilmiau ffuglen a dogfen. Wedi’i geni yn Llundain a’i magu ar Ynys Môn, dechreuodd ei gyrfa mewn swyddfeydd cynhyrchu fel rhedwr ac cynorthwyydd ar gyfresi ffilm Warner Bros., Harry Potter, a James Bond gan Sony.

Mae ei chleientiaid yn cynnwys Screen Ireland, BFI Network, Uncertain Kingdom, Ffilm Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac S4C. Roedd yn fraint iddi gyflwyno O’r Sgript i’r Sinema, y cwrs ysgrifennu ffilm Gymraeg cyntaf gan NFTS Cymru, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol ac S4C.