S4C And NFTS Cymru Wales Team Up To Help Welsh Writers Develop Their Screenwriting Skills In A New Course
‘O’r Sgript i’r Sinema’, funded by Creative Wales, will develop budding Welsh film writers and support the production of feature films in the Welsh language
S4C and the National Film and Television School (NFTS) have announced details of a brand-new screenwriting course which is designed to help writers develop their cinematic voice in the Welsh language. The six-month O’r Sgript i’r Sinema course, funded by Creative Wales, will allow participants to hone their writing skills for the big screen – from the initial concept through to writing a complete screenplay.
It is hoped that the course will help re-ignite the Welsh language feature film industry, bringing contemporary and compelling stories made in Wales to the screen – at home and across the world – once again. During the 1990s, Welsh films enjoyed considerable success internationally – such as Hedd Wyn which made history in 1994 as the first Welsh-language film to be shortlisted for an Oscar; House of America and Twin Town in 1997; Human Traffic in 1999; and the Oscar-nominated classic Solomon and Gaenor in 1999.
Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said: “Creative Wales is committed to finding and nurturing Welsh creative talent and this is a key priority of our three year Creative Skills Action Plan. We are pleased to continue our partnership with NFTS Cymru Wales and S4C to develop Welsh language talent by supporting this new Welsh language scriptwriting course. It is a fantastic example of our increased partnership working in Wales, to deliver our ambitions to grow the creative sector, and to support the creative industries in Wales.”
Sian Doyle, Chief Executive for S4C, said: “It’s wonderful to have the support of NFTS Cymru Wales and Creative Wales to be able to offer this landmark course for Welsh writers, helping develop the talent of the future and giving people from all backgrounds the opportunity to bring their stories alive on screen. We share the same vision of wanting to see a thriving Welsh screen industry which is recognised and celebrated internationally and, with the huge global success of recent subtitled releases such as The Quiet Girl and All Quiet on the Western Front, we know that language won’t be a barrier.”
Judith Winnan, Head of NFTS Cymru Wales, said: “We’re thrilled to be working with S4C and Creative Wales to offer this brand-new course that has been specially designed to support the production of more feature films in the Welsh language. O’r Sgript i’r Sinema has been tailor-made to help Welsh writers find their own unique cinematic voice and is a fantastic opportunity for those who may never have written a screenplay before to learn the craft of screenwriting and how the film industry works.”
O’r Sgript i’r Sinema is a six-month part-time course that will teach feature film screenwriting and has been created to support the Welsh language feature film industry. There are six places available which, thanks to the support of Creative Wales, will be heavily subsidised with a cost of just £200 per participant.
The course will be delivered through a combination of classroom teaching, masterclasses and tailored one-to-one support, with a core aim of building the confidence of each writer – both in developing ideas and the craft of writing. Additionally, the course will give an understanding of the development process within the film industry and offer pitch training.
The course will be delivered primarily through the medium of Welsh, led by BAFTA Cymru-nominated filmmaker Catrin Cooper – whose credits include Alfred and Jakobine (2013) and Honeytrap (2014). The course consultant and guest tutor is writer/director Catherine Linstrum whose credits include Nuclear (2019), Nadger (2010) California Dreamin’ (2007) and Dreaming of Joseph Lees (1999).
Applications for the course are now open via NFTS Cymru Wales’ website - nfts.co.uk/or-sgript-ir-sinema
O’r Sgript i’r Sinema is for new and emerging feature film writers and the ability to write in Welsh is essential. The course will commence in June 2023.
This announcement comes during the same week as the release of the S4C film, Y Sŵn, which will be shown in cinemas across Wales in March and broadcasts on S4C in April, to mark the channel’s 40th anniversary.
The film, produced by Roger Williams and directed by Lee Haven Jones tells the story of Plaid Cymru MP Gwynfor Evans’ attempts to force Thatcher’s government to set up the Welsh language channel in the 70s, which eventually led to the establishment of S4C.
Y Sŵn stars Mark Lewis Jones, Siân Reese-Williams and Rhodri Evan and can be seen on a limited run of cinema screenings from 10 – 24 March 2023. Screening times can be found via cinemas and at yswn.cymru
- FERSIWN CYMRAEG | WELSH VERSION
-
S4C A NFTS Cymru Wales Yn Cydweithio I Helpu Darpar Sgriptwyr Ffilm Cymraeg I Ddatblygu Eu Sgiliau Ysgrifennu Mewn Cwrs Newydd
Bydd 'O'r Sgript i'r Sinema', sydd wedi'i ariannu gan Cymru Greadigol, yn meithrin talent i sgriptio ffilmiau Cymraeg, ac yn cefnogi cynhyrchu ffilmiau nodwedd yn y Gymraeg
Heddiw, mae S4C a’r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol yng Nghymru (NFTS) wedi cyhoeddi manylion cwrs sgriptio newydd sbon sydd wedi'i gynllunio i helpu sgriptwyr i ddatblygu eu llais sinemateg eu hunain yn Gymraeg.
Fe fydd y cwrs chwe mis O'r Sgript i'r Sinema, a ariennir gan Cymru Greadigol, yn caniatáu i'r cyfranogwyr hogi eu sgiliau ysgrifennu ar gyfer y sgrin fawr – o'r cysyniad cychwynnol i ysgrifennu sgript sgrin gyflawn.
Y gobaith yw y bydd y cwrs yn helpu i aildanio'r diwydiant ffilmiau nodwedd Cymraeg, gan ddod â straeon cyfoes ac ysbrydoledig a wnaed yng Nghymru i'r sgrin – gartref ac ar draws y byd – unwaith eto. Yn ystod y 1990au, cafodd ffilmiau Cymraeg gryn lwyddiant yn rhyngwladol - fel Hedd Wyn a wnaeth hanes yn 1994 fel y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar; House of America a Twin Town yn 1997; Human Traffic yn 1999; a'r clasur Solomon a Gaenor, a enwebwyd am Oscar yn 1999.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ddod o hyd i dalent greadigol Gymraeg a'i meithrin, ac mae hyn yn flaenoriaeth allweddol i'n Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol tair blynedd. Rydym yn falch iawn o barhau â'n partneriaeth gyda NFTS Cymru Wales ac S4C i ddatblygu talent iaith Gymraeg trwy gefnogi'r cwrs sgriptio iaith Gymraeg newydd hwn.
"Mae'n enghraifft wych o'n gwaith partneriaeth uwch yng Nghymru, i gyflawni ein huchelgais i dyfu'r sector creadigol, ac i gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."
Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Rydym ni am ddiolch i NFTS Cymru Wales a Cymru Greadigol am eu cefnogaeth i’n galluogi i gynnig y cwrs pwysig hwn i ysgrifenwyr, gan roi’r cyfle i bobl o bob cefndir ddod â'u straeon yn fyw ar y sgrin. Rydym yn rhannu'r un weledigaeth o fod eisiau gweld diwydiant sgrin Gymreig ffyniannus sy'n cael ei gydnabod a'i ddathlu'n rhyngwladol a, gyda llwyddiant byd-eang ffilmiau diweddar sydd ag is-deitlau, fel The Quiet Girl ac All Quiet on the Western Front, rydyn ni’n gwybod na fydd iaith yn rhwystr i ni."
Dywedodd Judith Winnan, Pennaeth NFTS Cymru Wales: "Rydym ni wrth ein boddau i weithio gyda S4C a Cymru Greadigol i gynnig y cwrs newydd sbon hwn sydd wedi’i gynllunio'n arbennig i gefnogi cynhyrchu mwy o ffilmiau nodwedd yn yr iaith Gymraeg. Mae O'r Sgript i'r Sinema wedi ei deilwra i helpu awduron Cymru ddod o hyd i'w llais sinemateg unigryw eu hunain ac mae'n gyfle gwych i'r rhai na fyddent efallai wedi ysgrifennu sgript o'r blaen i ddysgu crefft sgriptio a sut mae'r diwydiant ffilm yn gweithio."
Mae O'r Sgript i'r Sinema yn gwrs rhan-amser chwe mis a fydd yn dysgu sgriptio ffilmiau nodwedd ac sydd wedi ei greu i gefnogi'r diwydiant ffilm nodwedd Cymraeg. Bydd chwe lle ar gael a, diolch i gefnogaeth Cymru Greadigol, bydd pob un yn derbyn cymhorthdal sylweddol gyda chost o £200 yn unig i bob cyfranogwr.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o addysgu yn y dosbarth, dosbarthiadau meistr a chefnogaeth un-i-un, gyda'r nod o fagu hyder pob awdur – wrth ddatblygu syniadau a'r grefft o ysgrifennu. Hefyd, bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth o'r broses ddatblygu o fewn y diwydiant ffilm ac yn cynnig hyfforddiant am sut i gyflwyno eu syniadau.
Bydd y cwrs yn cael ei ddysgu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, dan arweiniad y gwneuthurwr ffilmiau a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru, Catrin Cooper. Mae ei gwaith yn cynnwys Alfred and Jakobine (2013) a Honeytrap (2014). Yr ymgynghorydd cwrs a thiwtor gwadd yw'r awdur/cyfarwyddwr Catherine Linstrum. Mae ei gwaith yn cynnwys Nuclear (2019), Nadger (2010) California Dreamin' (2007) a Dreaming of Joseph Lees (1999).
Mae ceisiadau ar gyfer y cwrs ar agor trwy wefan NFTS Cymru Wales - nfts.co.uk/or-sgript-ir-sinema
Mae'r cwrs ar gyfer awduron ffilm nodwedd newydd a rhai sy'n dechrau dod i'r amlwg ac mae'r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol. Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Mehefin 2023.
Daw'r cyhoeddiad hwn yn ystod wythnos rhyddhau ffilm S4C, Y Sŵn, fydd yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru ym mis Mawrth ac sy’n cael ei darlledu ar S4C ym mis Ebrill, i nodi pen-blwydd y sianel yn 40 oed.
Mae'r ffilm, a gafodd ei chynhyrchu gan Roger Williams a'i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones yn adrodd hanes ymgais AS Plaid Cymru, Gwynfor Evans, i orfodi llywodraeth Margaret Thatcher i sefydlu sianel Gymraeg yn y 70au, a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu S4C.
Mae rhai o sêr Y Sŵn yn cynnwys Mark Lewis Jones, Siân Reese-Williams a Rhodri Evan ac ar rediad cyfyngedig o ddangosiadau sinema o 10 – 24 Mawrth 2023. Gellir dod o hyd i'r amseroedd sgrinio drwy sinemâu ac ar yswn.cymru