O'r Sgript i'r Sinema

O'r Sgript i'r Sinema

O’r Sgript i’r Sinema: Cwrs ysgrifennu ar gyfer y sgrin

Cwrs 6 mis, rhan amser yn dechrau Mehefin 2023

Mae’r cwrs newydd sbon hwn wedi'i gynllunio i ganiatáu awduron i ddod o hyd i’w llais sinematig unigryw eu hunain yn Gymraeg. Dros gyfnod o chwe mis, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu - o’r syniad cychwynnol hyd at y sgript ffilm orffenedig - gan fanteisio ar gyfuniad o ddulliau cymorth wedi’u teilwra, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a dosbarthiadau meistr.

Gan ymateb i angen o fewn y diwydiant ffilm am fwy o ffilmiau nodwedd Cymraeg, mae’r cwrs yn benodol ar gyfer ysgrifennu ffilmiau nodwedd i’r sgrin. Ymdrinnir ag elfennau allweddol y grefft gan gynnwys cysyniad ac ystyr, strwythur, cymeriadau, plot a deialog. Yn ogystal, bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth o'r broses ddatblygu o fewn y diwydiant a hyfforddiant ar gyflwyno syniadau.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gymysgedd o ddulliau wyneb yn wyneb ac ar-lein: bydd sesiynau wyneb yn wyneb misol ar gyfer y grŵp cyfan yn ogystal â dosbarthiadau ar-lein rheolaidd gyda'r nos yn ystod yr wythnos. Bydd pawb sy’n cymryd rhan hefyd yn cael sesiynau un i un rheolaidd gydag arweinydd y cwrs. Drwy'r gwahanol elfennau hyn, bydd y cwrs yn helpu i feithrin hyder fel awdur, o ran datblygu syniadau ac, yn hollbwysig, datblygu'r sgiliau i drafod syniadau ac ysgrifennu. Bydd hefyd yn annog ysbryd o gydweithio a chefnogaeth gan gyfoedion, ac yn cynnig cyngor wrth y diwydiant ar grefft a datblygiad proffesiynol.

Bydd y rhan fwyaf o’r cwrs yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y sesiynau un i un, sef asgwrn cefn datblygiad creadigol personol. Bydd elfennau eraill o’r cwrs, gan gynnwys rhai siaradwyr gwadd a sesiynau gweithdy, yn ogystal â nifer o’r ffilmiau a llyfrau dan sylw, yn Saesneg.

Erbyn diwedd y cwrs, disgwylir i’r rhai sy’n cymryd rhan gynhyrchu:

•    crynodeb un frawddeg (logline)

•    llechan o syniadau

•    datganiad awdur

•    amlinelliad un dudalen

•    bwrdd naws (mood board) 

Yn ogystal:

•    sgript ffilm hir NEU

•    ymdriniaeth a golygfeydd enghreifftiol 

Arweinydd y Cwrs:  

Mae Catrin Cooper yn gynhyrchydd, ac mae ei gwaith wedi’i ddangos mewn gwyliau fel Hot Docs, AFI Docs, a DocFest. Cafodd ei geni yn Llundain a’i magu ar Ynys Môn, ac astudiodd yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol, gan raddio o’r Rotterdam Producers Lab.



Mae ei gwaith yn cynnwys y ffilm ddogfen Alfred and Jakobine (2013), a werthwyd gan PBS International gyda cherddoriaeth Nick Urata (Paddington), a ffilm gyntaf Rebecca Johnson Honeytrap (2014), a ddosbarthwyd gan gwmni Ava DuVernay, Array Now. 



Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd Catrin hefyd fel swyddog datblygu i gronfa ffilm genedlaethol a chwmnïau cynhyrchu. Yn y gronfa, helpodd i gefnogi dros 40 o sgriptiau, gan gynnwys prosiectau gan y cynhyrchwyr Andrew Eaton (The Crown) a Tanya Seghatchian (The Power of the Dog). Treuliodd ei gyrfa gynnar mewn swyddfeydd cynhyrchu ar gyfer ffilmiau Harry Potter gan Warner Bros a chyfres Sony, James Bond.



Ymgynghorydd y Cwrs a Thiwtor Gwadd 

Awdur/cyfarwyddwraig yw Catherine Linstrum. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys y gyfres iasol goruwchnaturiol Nuclear gydag Emilia Jones, George Mackay a Sienna Guillory.

Roedd ei ffilm nodwedd gyntaf fel awdur, Dreaming of Joseph Lees, (cynhyrchwyd gan Midsummer Films, cyfarwyddwyd gan Eric Styles) yn gynhyrchiad Fox Searchlight gyda Samantha Morton a Rupert Graves. Dilynwyd hyn gan fwy o sgriptiau nodwedd gan gynnwys The Counting House, darn arswyd Eidalaidd-Tsieineaidd y bu’n cyd-ysgrifennu, California Dreamin’, ffilm nodwedd Rwmanaidd a ysgrifennodd ar y cyd â Cristian Nemescu a Tudor Voica.  

Mae ei darnau byrion yn cynnwys The Black Dog gyda David Threlfall, Nadger (enillydd BAFTA Cymru) ac yn fwyaf diweddar, Things That Fall FromThe Sky gyda Ophelia Lovibond a Steven Waddington.

Ochr yn ochr â’i gwaith creadigol ei hun, mae Catherine hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd sgript, mentor a hyfforddwr. Mae wedi dysgu ar weithdai sgriptio yn y DU, yr Eidal a Rwmania, yn ogystal â dysgu cyfarwyddo ac actio ar gyfer y sgrin yn rhai o ysgolion drama blaenllaw y DU. Fel rhan o Fireparty Lab, mae hefyd yn cynnig mentora a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ffilm.



Pris: £200

Dyddiad cau: 1 o Fai

 

Diwrnod Agored

I ddarganfod mwy o wybodaeth am y cwrs ac i gael cyfle i ofyn cwestiynau i Catrin Cooper a Catherine Linstrum, ymunwch ag un o'r diwrnodau agored:

Dydd Mawrth 18 Ebrill 13.00 – 14.00 

Dydd Mawrth 25 Ebrill 13.00 – 14.00

 

Gwnewch gais yma

Sylwch, ni fyddwch yn gallu arbed eich cais ar Survey Monkey. Mae'r cais yn gofyn i chi atodi sgript ffilm rydych chi wedi’i hysgrifennu (rhwng 5 a 10 tudalen). Mae'r ail dudalen yn gofyn cwestiynau amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae O’r Sgript i’r Sinema ar gyfer sgrin-awduron ffilmiau nodwedd newydd, addawol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd efallai erioed wedi ysgrifennu ar gyfer y sinema o’r blaen, serch hynny, mae’r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.

Nid yw'r cwrs yma'n agored i staff S4C a Cymru Greadigol.

Content Tabs